sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

cymorth a lwfans maethu yng Nghasnewydd

sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.

Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Casnewydd yn rhoi arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dyw’r cymorth ddim yn dod i ben yno.

Unwaith eich bod yn maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:

  • arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol dynodedig
  • tâl maethu i dalu costau byw hanfodol
  • cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
  • cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
  • a llawer mwy o fuddion.

Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.

Group standing in front of mural

lwfans gofal maeth

ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn.  Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys

  • faint o blant rydych chi’n eu maethu
  • oedran y plant
  • ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu.

Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 gartref rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud.

Yn Maethu Cymru Casnewydd mae’n bwysig i ni bod plant yn cael popeth sydd ei angen arnynt i ffynnu, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 3 ran: y lwfans plant wythnosol + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.

lwfans plentyn

Yng Nghasnewydd y lwfans ar gyfer plentyn yw £204-£255 yr wythnos, yn dibynnu ar oedran y plentyn. Mae’r rhan hon o’r taliad yn cael ei rhoi at ddiben penodol prynu unrhyw beth sydd ei angen ar y plentyn, fel bwyd, dillad neu nwyddau ymolchi ynghyd â thalu biliau ychwanegol y cartref.

ffi gofalwr maeth

Mae ffioedd yn cael eu talu ar ben lwfansau i gydnabod amser, sgiliau a phrofiad gofalwr maeth. Yng Nghasnewydd, mae ffi’r gofalwr maeth yn amrywio o £139 i £183.

taliadau ychwanegol

Yng Nghasnewydd, rydym hefyd yn talu lwfans pen-blwydd, lwfans Nadolig, costau milltiroedd (45c y filltir) ac rydym yn darparu offer sefydlu. Byddwch hefyd yn gymwys i gael rhyddhad gofal cymwys sy’n golygu y gallwch: Gael trefniant treth pan fyddwch yn maethu a derbyn £18,140 o faethu cyn gorfod talu treth.

ein hymrwymiad i chi

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.

Foster Wales Newport Team photo

tîm maethu lleol

Dydych chi ddim allan yna ar eich pen eich hun.  Mae gennych dîm i’ch cefnogi a’ch annog, bob cam o’r ffordd.

Mae cymorth ar gael ar unrhyw adeg – nid o fewn oriau swyddfa yn unig. Rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod wrth law 24/7.  Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, byddwn ni yno.

Supervising social worker and foster carer

gweithiwr cymdeithasol maethu ymroddedig

Bydd gennych weithwyr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law, gydag aelod o’r tîm maethu sydd wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.

Mae Maeth Cymru Casnewydd yn rhan o’r awdurdod lleol sy’n gweithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Mae hyn yn golygu mynediad at wybodaeth am y plentyn ac adrannau eraill y gwasanaethau cymdeithasol a chysylltiadau gwaith agosach gyda gweithwyr cymdeithasol plant.

Byddwch hefyd yn cael aelodaeth o’r Rhwydwaith Maethu a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFKA) Cymru sy’n cynnig cymorth annibynnol, cyngor preifat, arweiniad a hyfforddiant.

Social worker and foster carer

cymorth cyfoedion

Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill.  I roi profiadau newydd, cyfeillgarwch newydd, ac atgofion newydd i chi. Bydd gofalwyr maeth arloesol profiadol yn eich cefnogi chi.

Rydym hefyd yn cynnig grwpiau cymorth cyfoedion fel Men Who Care sy’n cynnig digwyddiadau cymorth a chysylltiad i ofalwyr gwrywaidd

Adult with teenage boy in kitchen making food together

cyfleoedd dysgu

Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydym yn cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.

Adult and young girl baking together in kitchen

mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?

Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.

gofyn am becyn gwybodaeth

cymorth arall a gwobrau

Icon of tickets/passes

Cerdyn Golau Glas

Mae gofalwyr maeth yn gymwys ar gyfer y Cerdyn Golau Glas sy’n cynnig gostyngiadau.

Agreement icon

ID gofalwr maeth CDC

mynediad am ddim i gampfa ac i nofio ar gyfer gofalwyr maeth, plant maeth a’ch plant eich hun. Hefyd, gostyngiadau mewn llawer o leoliadau gan gynnwys parciau thema.

Training icon

polisi sy’n deall maethu

Mae gweithwyr CDC sydd hefyd yn maethu i ni yn cael 5 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol i’w defnyddio i gefnogi eu rôl fel gofalwr maeth.

Coffee mug icon

gwasanaethau therapiwtig lleol

Mynediad at wasanaethau therapiwtig lleol, e.e. TCFi a Gwasanaeth Therapiwtig y Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd.

Social worker icon

gweithgareddau i'r teulu

Digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer gofalwyr maeth, eu teulu a’u plant maeth – diwrnodau o hwyl yn yr haf sy’n cael eu cynnal gan y tîm maethu drwy gydol gwyliau’r haf a digwyddiadau gwerthfawrogi blynyddol a gynhelir ym mis Mai.