stori

Mair a Richard: Pam y gwnaethom ddewis trosglwyddo i Faethu Cymru Casnewydd

Cafodd Mair a Richard brofiad cadarnhaol gyda’u hasiantaeth faethu annibynnol. Roedd y gefnogaeth yno. Roedd y perthnasoedd yn gweithio. Ond dros amser, dechreuon nhw edrych ychydig yn fanylach ar sut roedd y system yn gweithio, a’u lle nhw ynddi. Dyna pryd y dechreuon nhw ofyn rhagor o gwestiynau a dechrau ystyried trosglwyddo i Faethu Cymru, Casnewydd.

Deall y darlun ehangach

Roedden nhw eisoes yn gofalu am blant o Gasnewydd, felly dechreuon nhw ofyn cwestiynau, gwneud eu hymchwil eu hunain, ceisio deall beth oedd yn digwydd y tu ôl i’r llenni.

“Gwnaethon ni rywfaint o ymchwil a sylweddoli faint oedd yn costio i’r awdurdod lleol i leoli plant gydag asiantaethau maethu annibynnol… pan oeddech chi’n cyfrifo faint o arian trethdalwyr oedd yn cael ei wario, roedd yn ddewis hawdd.”

Arhosodd y newid hwnnw mewn persbectif gyda nhw. Nid oedd yn ymwneud â bod yn anhapus lle roedden nhw. Roedd yn ymwneud â phenderfynu ble roedden nhw eisiau bod yn y dyfodol.

Ffordd fwy cydgysylltiedig o weithio

Un o’r pethau cyntaf y gwnaethon nhw sylwi arno ar ôl trosglwyddo oedd pan mor gydgysylltiedig yr oedd popeth yn teimlo. Yn hytrach na gwahanol sefydliadau yn rhan o’r broses, roedd pawb yn rhan o’r un tîm awdurdod lleol.

“Mae’n ddefnyddiol bod y gweithiwr cymdeithasol plant a’r gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol i gyd o dan yr un to… mae rhannu gwybodaeth yn llawer haws.”

O ddydd i ddydd, roedd hynny’n gwneud pethau’n symlach. Roedd sgyrsiau yn teimlo’n fwy uniongyrchol. Nid oedd angen i wybodaeth deithio mor bell. Ac os nad oedd rhywun ar gael, fel arfer roedd rhywun arall o fewn yr un tîm a allai gamu i mewn a helpu.

Roedden nhw hefyd yn teimlo bod mwy o bwys i’w llais.

“Rydyn ni’n teimlo bod gennym lais ac mae ein llais dros y plant yn cael ei glywed yn fwy ers maethu gyda Chasnewydd.”

Roedd yr ymdeimlad hwnnw bod rhywun yn gwrando arnoch, yn enwedig pan fyddwch chi’n eirioli dros blentyn, yn gwneud gwahaniaeth.

Ymdeimlad cryfach o gymuned

Newidiodd rhywbeth arall hefyd, ac nid oedd yn rhywbeth yr oeddent wedi’i ddisgwyl.  Gwnaethon nhw ddod o hyd i ymdeimlad cryfach o gymuned gyda gofalwyr eraill.

“Mae ymdeimlad enfawr o gymuned wrth faethu yng Nghasnewydd.”

Roedd mwy o gyfleoedd i gysylltu, i rannu profiadau, i gefnogi ein gilydd mewn ffyrdd bach, bob dydd. Sgyrsiau grŵp. Cwrdd â’n gilydd. Trosglwyddo dillad a phethau y gallai fod eu hangen ar y plant.

“Gallwn gwrdd lle nad oes rhaid i’r plant fod yn wahanol, dim ond plant ydyn nhw.”

Daeth y ddealltwriaeth honno, i ofalwyr ac i blant, yn rhan bwysig o’u profiad.

Sut mae pethau’n gweithio o ddydd i ddydd gyda Maethu Cymru Casnewydd

Yn ariannol, arhosodd pethau “yr un peth.” Ond roedd rhai o’r agweddau ymarferol o faethu yn teimlo’n haws i’w rheoli. Roedden nhw wedi profi oedi ynghylch taliadau seibiant o’r blaen. Ers symud, gwnaethon nhw’n disgrifio’r system fel llawer symlach.

“Yng Nghasnewydd, mae’n slic ac yn hawdd i’w reoli.”

Roedd gwahaniaethau llai, pob dydd hefyd. Roedd eu hasiantaeth flaenorol bellter i ffwrdd, a oedd yn golygu teithio rheolaidd ar gyfer hyfforddiant, heb dreuliau. Gyda’r awdurdod lleol, roeddent yn gallu hawlio milltiredd ar gyfer teithiau penodol.

Ac roedd ychydig o fanteision annisgwyl hefyd. “Roedd yr aelodaeth gampfa am ddim a oedd yn cael ei chynnig gan yr awdurdod lleol yn beth braf, yr ydym yn ei defnyddio’n rheolaidd.” Ar eu pen eu hunain, efallai bod y pethau hyn yn ymddangos yn fach. Ond gyda’i gilydd, maen nhw’n siapio sut mae maethu o ddydd i ddydd yn teimlo.

Lle mae cael gwared ar elw yn berthnasol

Roedd y newid mwy, fodd bynnag, yn ymwneud â gwerthoedd.

Yng Nghymru, mae symudiad tuag at gael gwared ar elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, gyda chynllun ar gyfer gwasanaethau, gan gynnwys maethu, i weithredu ar sail nid-er-elw erbyn 2027. 

Gall asiantaethau maethu annibynnol fod naill ai’n er-elw neu’n nid-er-elw. I Mair a Richard, gwnaeth deall sut roedd y system honno’n gweithio chwarae rhan yn eu penderfyniad.

“Mae gan asiantaethau maethu annibynnol ffordd wahanol o weithio. Maen nhw’n gweithredu mewn model busnes ac mae’n ymwneud â gwneud arian.”

Ar yr un pryd, maen nhw’n glir am eu profiad eu hunain.

“Doedd dim newidiadau o fewn yr asiantaeth faethu annibynnol, roedden ni’n hapus. Moesau’r cwmni wnaeth i ni symud.”

Nid oedd yn ymwneud â rhywbeth yn mynd o’i le. Roedd yn ymwneud â meddwl yn fwy gofalus ynghylch sut mae’r arian yn cael ei wario, a beth ddylai fod yn ganolog i faethu.

Cadw plant yn lleol

Roedd aros yn lleol yn rhan bwysig arall o hynny. “Mae’n bwysig i blant aros yn lleol i’r hyn maen nhw’n ei wybod.”

Gall bod yn agosach at leoedd, ysgolion a chymunedau cyfarwydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant. Ac mae bod yn rhan o’r awdurdod lleol yn golygu bod yn rhan o’r system sy’n ceisio gwneud i hynny ddigwydd.

Pam symud, felly?

Wrth edrych yn ôl, nid oedd un trobwynt penodol. Roedd yn newid graddol. Dysgu mwy am sut mae maethu yn gweithio. Meddwl am yr hyn oedd yn bwysicaf oll. A phenderfynu sut roedden nhw am fod yn rhan o’r system honno.

Ac iddyn nhw, mae’n dod yn ôl at rywbeth syml:

“Nid yw’n ymwneud â chael ystafell sbâr i faethu, mae’n ymwneud â chael lle sbâr yn eich calon, eich teulu a’ch bywyd.”

Ydych chi’n meddwl am drosglwyddo i Foster Wales Casnewydd?

Os ydych chi’n maethu gydag asiantaeth faethu annibynnol ar hyn o bryd, ac yn meddwl tybed sut beth fyddai symud, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw benderfyniadau ar unwaith.

Bydd eich profiad yn cael ei gydnabod. Ni fyddwch chi’n dechrau eto. A gallwch gael sgwrs heb bwysau.

Os ydych chi’n byw yng Nghasnewydd, danfonwch neges atom, a byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted ag y gallwn.

Os ydych chi’n byw yn rhywle arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru, lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen am faethu a manylion cyswllt y gwasanaeth maethu yn eich  awdurdod lleol.

Mae dewis Maethu Cymru yn benderfyniad i weithio gyda phobl go iawn yn eich cymuned leol, sy’n rhoi budd gorau plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch