Pam wnaethoch chi benderfynu dod yn ofalwr maeth?
Trwy fy ngwaith, rydw i wedi dod yn ymwybodol o bobl ifanc sydd mewn gofal preswyl ar hyn o bryd a fyddai’n elwa’n fawr o fod yn rhan o uned deuluol; un lle gallant gael profiad o fywyd teuluol sy’n wahanol i’r un a gawsant o’r blaen.
Yn ogystal, fe wnaeth fy mam-gu faethu dros 150 o bobl ifanc dros ei hoes felly roedd hi wastad yn ysbrydoliaeth i mi.
Sut brofiad oedd y broses asesu i chi?
Roedd y broses asesu yn hir ac yn drylwyr iawn, ond roedd gen i asesydd rhagorol a wnaeth y profiad cyfan yn haws i mi. Fe wnaethon ni siarad llawer am fy mhlentyndod cynnar a sut cefais fy magu ynghyd â sut olwg roeddwn i’n meddwl y byddai ar fy arddull rhianta fy hun. Gwnaeth y cwestiynau a ofynnodd fy asesydd i mi feddwl yn galed ac fe roddodd hi waith cartref i mi hefyd!
Mynychais Sgiliau i Faethu, cwrs hyfforddi deuddydd gorfodol gydag ymgeiswyr eraill yn ystod fy asesiad a oedd yn ddifyr ac yn llawn mewnwelediad.
Wnaethoch chi erioed ailystyried wrth i chi gael eich asesu?
Do. Roeddwn i’n poeni am y posibilrwydd o unrhyw ddigwyddiadau a sut y gallent effeithio arna i pe baent yn codi. Cefais gyfle i drafod fy mhryderon gyda fy asesydd, a helpodd hi i dawelu fy meddwl. Mae fy ngweithiwr cymdeithasol goruchwyliol (a gafodd ei ddyrannu pan gefais fy nghymeradwyo) hefyd yn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gen i.
Yn eich barn chi, a yw’n bwysig i ofalwyr maeth gael hyblygrwydd yn y gweithle?
Rwy’n gweithio sifftiau fel arfer, ond gallaf fod ar alw 24 awr y dydd. Felly mae hyblygrwydd yn hanfodol ac mae dealltwriaeth fy nghyflogwr yn hollbwysig i fy ngalluogi i fod yn ofalwr maeth.
Pa gyngor allwch chi ei roi i eraill sy’n ystyried dod yn ofalwyr maeth i Gyngor Dinas Casnewydd
Byddwn i’n dweud ‘ewch amdani!’ Fel person sengl sy’n byw ar fy mhen fy hun, mae gwybod fy mod i’n rhan hanfodol o wasanaeth mawr ei angen wedi rhoi boddhad mawr i mi. Mae wedi newid fy mywyd. Byddwn i hefyd yn dweud wrth bobl i ofyn cymaint o gwestiynau ag sydd angen iddynt. Mae’r tîm ym Maethu Cymru Casnewydd yn gyfeillgar, yn hawdd mynd atynt ac yn gefnogol, a byddant yn fwy na pharod i helpu!
Allwch chi ddewis tri gair rydych chi’n credu sy’n rhinweddau hanfodol i ofalwr maeth?
Mae’n anodd iawn dewis tri gair yn unig, ond byddwn i’n dweud bod angen i chi fod yn feithringar, yn wydn ac yn angerddol gan fod y rhain yn rhinweddau a fydd o fudd mawr i chi.
Rydyn ni am glywed gennych
Os ydych chi’n byw yng Nghasnewydd, danfonwch neges atom, a byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted ag y gallwn.
Os ydych chi’n byw yn rhywle arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru, lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen am faethu a manylion cyswllt y gwasanaeth maethu yn eich awdurdod lleol.
Mae dewis Maethu Cymru yn benderfyniad i weithio gyda phobl go iawn yn eich cymuned leol, sy’n rhoi budd gorau plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud.