sut mae maethu cymru yn cefnogi gofalwyr maeth
cefnogaeth sy’n gwneud gwahaniaeth, gan y bobl sy’n gwybod popeth am y peth
Mae maethu yn benderfyniad sy’n newid bywyd, ac mae teimlo fel eich bod yn cael eich cefnogi yn gwneud gwahaniaeth mawr. Ledled Cymru, mae gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi bob dydd gan dimau ymroddedig, cyngor ymarferol a phobl sy’n deall realiti maethu.
Rydyn ni’n rhannu beth yn union yw’r gefnogaeth honno mewn bywyd go iawn.
Yng ngeiriau’r gofalwyr maeth eu hunain.
beth mae cefnogaeth yn ei olygu i ofalwyr maeth
Mae cefnogaeth yn ymwneud â mwy na chael cymorth gyda phrosesau neu daliadau yn unig. Ar gyfer gofalwyr maeth, mae’n ymwneud â gwybod bod rhywun yno i wrando, helpu, a chamu i’r adwy pan fydd angen.
Mae pob taith faethu yn wahanol, ond mae gofalwyr yn dweud wrthym yn gyson bod cefnogaeth yn chwarae rhan allweddol wrth wneud iddynt deimlo’n hyderus a medrus a byth ar eu pennau eu hunain.
Yr hyn mae ein gofalwyr maeth yn ei ddweud…
Rwyf bellach wedi croesawu fy mherson ifanc cyntaf i’m cartref, a diolch i’r sesiynau hynny gyda fy Ngweithiwr Cymdeithasol, rwy’n hyderus bod gen i’r sgiliau i roi’r gefnogaeth gywir i’r person ifanc anhygoel hwn.
Mae’r tîm ym Maethu Cymru Casnewydd yn gyfeillgar, yn hawdd mynd atynt ac yn gefnogol, a byddant yn fwy na pharod i helpu!
Mae ymdeimlad enfawr o gymuned wrth faethu yng Nghasnewydd. Gallwn gwrdd lle nad oes rhaid i’r plant fod yn wahanol, dim ond plant ydyn nhw.
pan fo angen cefnogaeth
sut rydym yn cefnogi gofalwyr maeth ledled cymru
Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, o Ynys Môn i Gasnewydd, wedi llofnodi Ymrwymiad Cenedlaethol Maethu Cymru – pecyn cytunedig o hyfforddiant, cymorth a gwobrau a gynigir i holl ofalwyr Maethu Cymru.
Mae’r ymrwymiad hwn yn nodi’r gefnogaeth graidd y gallwch ei disgwyl, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch ac yn cael eich cefnogi trwy gydol eich taith faethu.
- O’ch asesiad cychwynnol gyda gweithiwr cymdeithasol cymwys i arweiniad parhaus gan aelod ymroddedig o dîm Maethu Cymru, byddwch yn derbyn cefnogaeth broffesiynol gyson, ynghyd â chyfleoedd rheolaidd i rannu eich barn.
- Mae gofalwyr hefyd yn elwa o gymorth cyfoedion, dysgu a datblygu wedi’i deilwra, o leiaf chwe grŵp cymorth bob blwyddyn, ac o leiaf dau ddigwyddiad cymdeithasol ar gyfer yr aelwyd gyfan.
- Byddwch yn derbyn cylchlythyrau, cynlluniau disgownt, aelodaeth â thâl i’r Rhwydwaith Maethu a New Family Social, a chefnogaeth i greu eich proffil gofalwr maeth ar-lein ar Big Welcome i helpu plant i setlo yn eich cartref. Mae Maethu Cymru hefyd yn cydnabod eich ymroddiad gyda rhoddion gwerthfawrogi, tystysgrifau gwasanaeth hir a gwobrau argymell ffrind, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi bob cam o’r ffordd.