Yn 79 oed, nid yw Sylvia Heaven yn dangos unrhyw arwydd o arafu fel gofalwr maeth sydd wedi llwyr ymroi i’w swyddogaeth yng Nghasnewydd, Cymru.
Dros bum degawd ar ôl iddi agor ei chartref i blentyn mewn angen am y tro cyntaf, mae’n dal i wneud yr hyn y mae wedi’i wneud orau erioed: darparu lle diogel, cariadus i blant ifanc dyfu, gwella a ffynnu gyda chymorth gofal maeth.
Dechreuodd Sylvia ei thaith faethu yn ôl ym 1972 – roedd y byd yn wahanol iawn bryd hynny. Roedd can American Pie Don McLean ar frig y siartiau, roedd diwylliant disgo newydd yn gynyddol boblogaidd, ac roedd y DU yng nghanol newid cymdeithasol a gwleidyddol mawr.
Yr hyn na allai Sylvia fod wedi gwybod bryd hynny oedd 54 mlynedd yn ddiweddarach — ar ôl magu ei theulu ei hun a gofalu am dros 80 o blant — y byddai’n dal i fod yn maethu, gan adeiladu stori lwyddiant faethu ysbrydoledig .
Penderfyniad syml a newidiodd fywydau
Ar y pryd, roedd Sylvia yn fam sengl ifanc i ddau fachgen bach pan ddaeth ar draws hysbyseb yn ei phapur newydd lleol yn chwilio am ofalwyr maeth.
“Galla i wneud hyn meddwn wrth fy hun”, dywed Sylvia. “Cafodd fy mhlant fywyd da iawn, ac roeddwn i’n teimlo y gallwn i roi hynny i blentyn arall hefyd.”
Sbardunodd y penderfyniad syml hwnnw oes o ofal, tosturi ac ymrwymiad i faethu gydag awdurdod lleol.
Dros y blynyddoedd, mae Sylvia wedi cefnogi plant ar bob cam o’u teithiau — o’r rhai sy’n paratoi ar gyfer mabwysiadu neu’n dychwelyd i’w teuluoedd biolegol, i eraill a oedd angen sefydlogrwydd am gyfnod o amser o fewn y system gofal maeth yng Nghymru.
Yn ogystal â maethu, gweithiodd fel gwarchodwr plant, yn benderfynol o lwyddo i gefnogi ei theulu oedd yn tyfu ar ei phen ei hun. Yn ddiweddarach, croesawodd ddwy ferch, gan gynnwys un a ddaeth ati gyntaf fel babi maeth ac a fabwysiadwyd yn y pen draw i’r teulu yn 18 mis oed.
Heddiw, mae teulu Sylvia yn rhychwantu cenedlaethau, gyda phlant rhwng 23 a 57 oed, yn ogystal ag wyrion — rhai hyd yn oed yn magu plant ifanc eu hunain.
“Mae fy wyres a minnau yn dod ynghyd yn aml dros i boteli bwydo,” chwarddodd Sylvia, gan nodi bod plentyn ei hwyres yn agos at oedran yr un bach sydd yn ei gofal ar hyn o bryd.
“Rwyf bob amser yn dweud mai hwn fydd y tro olaf…”
Er gwaethaf y blynyddoedd — a’r heriau — mae Sylvia yn parhau i ddweud “ie” pan fydd plant ei hangen, gan ddangos yr ymrwymiad tymor hir sy’n gysylltiedig â bod yn ofalwr maeth.
“Rydw i bob amser yn dweud mai’r tro nesaf fydd yr un olaf,” dywed gyda gwen. “Ond yna rwy’n cael cais arall … dyma yw gwaith fy mywyd. Ni allaf ddweud na.”
Ar hyn o bryd mae hi’n gofalu am blentyn un oed ac mae Sylvia’n credu’n gryf bod cadw’n heini yn ei chadw’n ifanc. Hyd yn oed pan mae’r plant yn cael cwsg bach, anaml y mae hi’n llonydd — yn aml, gellir dod o hyd iddi yn cymoni’r ardd.
Fodd bynnag, mae ei gymhelliant yn mynd ymhell y tu hwnt i gadw’n brysur.
Dros y blynyddoedd, mae llawer o’r plant y mae hi wedi gofalu amdanynt wedi ailgysylltu â hi yn ddiweddarach mewn bywyd — yn aml gyda geiriau o ddiolchgarwch emosiynol, gan adlewyrchu’r pŵer sydd gan straeon gofal maeth.
“Daeth un ferch i’m gweld ar Sul y Mamau,” mae Sylvia’n cofio. “Dywedodd, ‘Rydych chi wedi rhoi’r bywyd gorau i mi. Fyddwn i ddim pwy ydw i heddiw.” Eisteddais yma a llefain – dywedais, ‘dwyt ti ddim i fod i wneud i mi lefen ar Sul y Mamau!”
Cefnogi plant trwy drawma
Nid yw taith Sylvia wedi bod yn brin o heriau. Mae llawer o blant sy’n mynd i mewn i ofal maeth wedi profi trawma, a gall hynny ymddangos mewn gwahanol ffyrdd – pryder, ofn, diffyg emosiwn, neu ei chael hi’n anodd ymddiried mewn eraill.
“Yn y gorffennol, mae plant wedi gwrthod brecwast oherwydd eu bod yn ofni na fyddant yn cael pryd arall,” esbonia Sylvia. “Ac rwy’n dweud wrthyn nhw — byddwch chi’n cael brecwast, yna cinio, yna te, a byrbrydau yn y canol. Fe gewch chi hynny yma bob amser.”
Mae creu ymddiriedaeth yn gofyn am amynedd, dealltwriaeth a chysondeb — sgiliau allweddol i ofalwyr maeth sy’n cefnogi plant sydd wedi dioddef trawma.
“Dydych chi ddim yn disgwyl i blentyn ddod i’ch gofal a bod yn berffaith,” meddai. “Rydych chi’n gweithio trwy bethau gyda’ch gilydd.”
Mae Sylvia yn canolbwyntio ar helpu pob plentyn i deimlo’n ddiogel o’r eiliad y maen nhw’n cyrraedd — esbonio pethau’n glir, dysgu beth maen nhw’n ei hoffi, a rhoi sicrwydd iddyn nhw y gallan nhw siarad neu gael cwtch pryd bynnag y bydd angen.
“Mae’n hyfryd pan maen nhw’n gofyn am gwtch,” ychwanegodd. “Dyna pryd rydych chi’n gwybod eich bod chi’n ennill eu hymddiriedaeth.”
A chyda degawdau o brofiad, mae Sylvia wedi datblygu hyder dwfn wrth gefnogi plant ag anghenion gwahanol.
“Mae pob plentyn yn wahanol,” meddai. “Rydych chi’n dod o hyd i ffordd i chwalu’r rhwystrau hynny a gwneud iddyn nhw deimlo’n ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu caru.”
Effaith am oes
Mae stori Sylvia yn un o ymroddiad eithriadol – nid yn unig wedi’i fesur mewn blynyddoedd, ond yn yr effaith barhaol y mae wedi’i chael ar fywydau plant a theuluoedd drwy faethu yng Nghymru.
Mae ei phrofiad hefyd yn tynnu sylw at neges bwysig: nid oes unrhyw oedran “delfrydol” i ddechrau maethu, ac mae gan ofalwyr maeth hŷn brofiad bywyd amhrisiadwy.
Yr hyn sydd bwysicaf yw’r gallu i gynnig sefydlogrwydd, gofal, amser a thosturi.
Wrth i Sylvia barhau â’i thaith i’w 80au, mae ei stori’n ein hatgoffa’n rymus o’r hyn y gall maethu ei gyflawni — nid yn unig i blant, ond i ofalwyr hefyd.

A allech chi wneud gwahaniaeth fel Sylvia?
Mae Sylvia yn gobeithio, trwy rannu ei stori, y bydd eraill yn teimlo eu bod wedi’u hysbrydoli i gymryd y cam cyntaf tuag at faethu ac archwilio sut i ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru.
Oherwydd weithiau, y cyfan sydd ei angen yw un penderfyniad — fel ateb hysbyseb mewn papur newydd lleol — i newid bywyd am byth.
Os ydych chi’n byw yng Nghasnewydd, Cymru, anfonwch neges atom, a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.
Os ydych chi’n byw mewn rhan arall o Gymru, ewch i wefan Maethu Cymru. Yno, bydd yr holl wybodaeth angenrheidiol am faethu a manylion sut i gysylltu â gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol.